Eric and Otis on bikes outside Cavendish College
Maeve, played by Emma Mackey

Mae Sex Education yn adrodd hanes grŵp o fyfyrwyr yn 'Moordale High'. Mae'n dilyn y bobl ifanc Otis, Eric a Maeve wrth iddynt ddilyn y llwybr anodd i ddatblygu'n oedolyn. Mae'r berthynas gyfnewidiol rhwng Otis a Maeve a straeon personol (yn aml yn rhai doniol iawn!) y cymeriadau wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd.

Ers rhyddhau tymor cyntaf Sex Education, a ffilmiwyd yng Nghymru, mae'r sioe wedi tyfu mewn poblogrwydd gyda'r tîm cynhyrchu yn dychwelyd i Gymru am dri thymor arall.

Mae ffilmio'r pedwerydd tymor [a'r olaf] bellach wedi dod i ben a'r hyn sy'n anhygoel, yw bod Sex Education bellach wedi'i wylio gan dros 55 miliwn o gartrefi ledled y byd, a dyma 12fed cyfres fwyaf poblogaidd Netflix yn y byd.

Gadewch i ni edrych yn ôl ar y stori hyd yn hyn.

Dr Milburn's recap of Season 3. 

Y lleoliadau

Mae Cymru Greadigol wedi bod yn rhan o stori Sex Education ers y dechrau gyda'n gwasanaeth arbenigol Sgrin Cymru wrth law i helpu'r tîm cynhyrchu ddod o hyd i'r lleoliadau mwyaf gwreiddiol. 

Er bod gan Moordale High naws Americanaidd, gwnaethpwyd llawer o'r ffilmio ym mhob tymor yn Ne Cymru, gyda Dyffryn Gwy, Coedwig Cwmcarn ac afon Gwy yn rhoi cefndir perffaith.

Un o'r newidiadau mwyaf i dymor 4 o ran lleoliadau yw symud o Moordale High [arferai golygfeydd neuadd yr ysgol gael eu ffilmio yn Ystafelloedd Paget ym Mhenarth] i Goleg newydd smart Cavendish, a ffilmiwyd yn Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Mae Pont Haearn Dug Beaufort yn Nhrefynwy hefyd yn lleoliad gwahanol i'r tri tymor cyntaf.   Cewch wybod mwy am yr union leoliadau ar draws holl dymhorau Sex Education yma.

Mae'r penderfyniad gan Eleven Film i seilio llawer o'r ffilmio ar gyfer y pedwar tymor yng Nghymru yn sicr wedi helpu i drawsnewid enw da Cymru fel lleoliad deniadol yn y diwydiant sgrin. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau wedi bod yn heidio i Gymru oherwydd ein tirwedd trawiadol, amrywiol a chriwiau ffilm talentog.

Gallwch fynd i'n tudalen arbenigol am gyngor ar Ffilmio yng Nghymru neu gofrestru ar ein cronfa ddata lleoliadau, criw a chyfleusterau.

 

Behind The Scenes of Sex Education. Shot on location in Wales

Trwy ein cronfa gynhyrchu roeddem yn gallu buddsoddi yng nghyfres un, tri a phedwar o'r ddrama-gomedi arloesol hon, gan sicrhau bod y gyfres yn dychwelyd i Gymru wrth iddi dyfu mewn poblogrwydd gan ddod yn un o sioeau gwreiddiol mwyaf llwyddiannus Netflix.

Rydym yn cefnogi mewnfuddsoddiad a chynyrchiadau cynhenid trwy becynnau cyllido o gymorth pwrpasol. Cewch wybod mwy am ein Cynlluniau Cyllido yma

Roedd ein buddsoddiad yn Sex Education hefyd yn ein galluogi i ddechrau sgyrsiau gyda'r tîm cynhyrchu am greu cyfleoedd i hyfforddeion lleol sydd am ddechrau yn y diwydiant. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am yr hyfforddeion hyn.

Lleoliadau i Hyfforddeion

Ar draws pedwar tymor Sex Education cynigiwyd lleoliadau i 36 o hyfforddeion gan ganiatáu i bobl leol gael profiad gwerthfawr ym mhob math o adrannau, o wisgoedd i ddylunio setiau.

Ar y tymor cyntaf cymerodd Sex Education dri hyfforddai graddedig oedd yn cael eu rhoi mewn adrannau cynhyrchu, celf a chyfrifon, yn ogystal â deg o israddedigion a gafodd leoliadau tymor byr.

Roedd tymor tri yn cynnig lleoliadau i saith o hyfforddeion graddedig mewn rolau gan gynnwys sain, colur a chyfarwyddwr cynorthwyol. Rhoddwyd lleoliadau profiad gwaith i wyth o israddedigion ar set hefyd.

Cymerodd y tymor olaf wyth hyfforddai cyflogedig a rhoddwyd lleoliadau iddynt mewn amrywiol adrannau o wisgoedd i gamerau a lleoliadau.

Mae llawer o'r hyfforddeion hyn wedi mynd ymlaen i gael swyddi ar gynyrchiadau eraill heb orfod gadael Cymru.

Rydym yn hynod falch bod Sex Education wedi'i ffilmio yma yng Nghymru a'n bod wedi gallu cefnogi'r cynhyrchiad ar hyd y ffordd. Nawr mae'r cyfan yn dod i ben, rydyn ni'n drist i ffarwelio â'r cymeriadau rydyn ni wedi'u dilyn dros y blynyddoedd ond rydyn ni nawr yn ystyried yr effaith gadarnhaol gafodd y gyfres ar y diwydiant ac rydyn ni'n barod i ddenu'r cynhyrchiad mawr nesaf i Gymru. Rydym ar agor yn swyddogol am fusnes!

 

Mae pob tymor o Sex Education yn ffrydio ar Netflix o'r 21 Medi, 2023.

Mae Sex Education wedi cael effaith aruthrol ar ganfyddiad pobl o Gymru. Gan ei bod yn gysylltiedig â chyfres mor llwyddiannus, mae Cymru wedi cael ei gwerthfawrogi am ei thirweddau godidog a'i threftadaeth unigryw."